
Ailgylchu yn y Gweithle yng Nghymru
Dysgwch ragor am reoliadau Llywodraeth Cymru, a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i bob gweithle wahanu deunyddiau ailgylchadwy
Beth yw Ailgylchu yn y Gweithle?
O 6 Ebrill 2024, daeth yn gyfraith i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus yng Nghymru wahanu eu gwastraff ar gyfer ailgylchu. O 6 Ebrill 2026, bydd ail gam y rheoliadau hyn yn cael ei gyflwyno, sy’n golygu bod rhaid casglu Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff Bach (sWEEE) ar wahân. I sicrhau bod ein cwsmeriaid i gyd wedi eu paratoi’n dda ar gyfer y newidiadau sydd ar y gweill, rydym wedi sicrhau bod y broses o newid cynwysyddion gwastraff i’r rheiny sy’n ofynnol o dan y gofynion newydd yn un ddiffwdan.
Chwe ffrwd wastraff graidd
Dan y rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle presennol, o hyn ymlaen mae’n rhaid i’r holl sefydliadau yng Nghymru wahanu deunyddiau ailgylchadwy’n chwe ffrwd wastraff wahanol. Mae hyn yn golygu y bydd rhaid i'ch gweithle wahanu, storio a chasglu gwastraff ailgylchadwy ar wahân yn unol â'r gyfraith. Dyma’r deunyddiau y bydd angen eu gwahanu ar gyfer eu casglu:
Sut gall Biffa eich cefnogi?
Rhagor o wybodaeth am y rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle newydd
Lawrlwythwch a rhannwch adnoddau defnyddiol i gefnogi rhoi casgliadau gwastraff ar wahân ar waith
Beth sy'n mynd i mewn?

